麻豆官网首页入口

Glanhau'r glannau

Wrth i bryder am blastig yn y m么r gynyddu, ai ein cyfrifoldeb ni
yw mynd ati i glirio sbwriel oddi ar ein traethau ein hunain?

Ar y pentir uwchlaw Porth Trecastell yng ngorllewin Ynys M么n mae siambr gladdu Barclodiad y Gawres yn cadw golwg draw dros F么r Iwerddon ers 5,000 o flynyddoedd.

Ond dros y degawdau diwethaf mae鈥檙 ceryntau sy鈥檔 cyrraedd y bae yma yn cario mwy a mwy o sbwriel o bedwar ban byd.

Gallai darn o blastig wedi ei daflu i鈥檙 m么r yng Ngogledd America gyrraedd y glannau hyn o fewn ychydig flynyddoedd.

Ar fore Sadwrn oer ym mis Ionawr 2018 gyda鈥檙 gwynt a'r glaw yn chwipio'r arfordir creigiog mae 150 o bobl a phlant wedi mentro allan i glirio鈥檙 traeth o blastig.

Nod y diwrnod, sydd wedi ei drefnu gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, ydy clirio gymaint 芒 phosib o sbwriel o'r traethau a'r baeau bach cyfagos ar y darn yma o arfordir i'r de o borthladd prysur Caergybi.

A hithau'n dal i dywallt y glaw mae'r gwirfoddolwyr yn casglu eu sachau a'u ffyn pigo sbwriel cyn heidio i'r traeth i'w lanhau.

Beverley

Mae Beverley o Fynydd Llandegai wedi dod gyda鈥檌 merch fach, Fern, sy鈥檔 helpu i bigo rhai o鈥檙 miloedd o ddarnau bach o blastig sy鈥檔 cael eu gadael ar y traeth gyda phob llanw a thrai.

"Mae鈥檙 plastig ym mhobman, mae鈥檔 broblem echrydus," meddai.

"Ond mae鈥檔 rhaid ei daclo ar lefel leol."

Mae Beverley yn dangos y ffyn bach cotton buds glas sydd ymhobman ar y tywod neu wedi eu dal gan y gwymon.

"Maen nhw'n un o'r pethau gwaetha'," meddai.

"Mae pobl yn eu taflu nhw i lawr y toiled ac maen nhw鈥檔 ffeindio eu ffordd i fan hyn."

"Mae鈥檙 plastig ym mhobman, mae鈥檔 broblem echrydus."
Rachel

"Mae鈥檙 ffyn cotton buds yn ddigon bach i ddianc drwy ffilteri鈥檙 system garthffosiaeth," meddai Rachel sy'n un o Arwyr Sbwriel Cadw Cymru鈥檔 Daclus.

Mae hi'n dangos faint mae hi wedi ei gasglu mewn cwta hanner awr ar y traeth.

"Dwi'n cadw lle gwely a brecwast yn Rhosneigr felly mae o ddiddordeb imi bod y traethau鈥檔 l芒n i gwsmeriaid hefyd!

"Dwi鈥檔 treulio lot o amser yn gwirfoddoli i lanhau traethau 鈥 dwi鈥檔 credu ei bod hi鈥檔 ddyletswydd arna' i fel defnyddiwr."

"Mae鈥檙 ffyn cotton buds yn ddigon bach i ddianc drwy ffilteri鈥檙 system garthffosiaeth."
Karla a Paige

"Rydyn ni鈥檔 rhyddhau鈥檙 gwymon yma o lein bysgota sydd wedi mynd yn sownd,鈥 meddai Karla Bentley sy'n byw yng Nghaergybi.

"Mi allai lein fel hyn wneud niwed mawr i bysgod, morloi, crwbanod a hyd yn oed grogi adar bach sydd newydd ddeor mewn nythod," meddai ei merch Paige, sy'n fyfyrwraig.

Mae Paige yn mynd yn aml i gasglu sbwriel oddi ar y traeth ac mae hi'n obeithiol bod gwleidyddion yn dechrau cymryd sylw o'r broblem.

"Hyd yn oed os ydych chi ddim ond yn gwneud y cyfraniad lleiaf, mae'n werth ei wneud," meddai.

"A dylen ni i gyd fod yn fwy ystyriol wrth brynu."

"Mae er ein mwyn ni'n hunain yn y pen draw," meddai Karla.

"Rydyn ni, yr anifeiliaid a bywyd gwyllt eisiau rhywle neis i fyw."

鈥淢i allai lein fel hyn wneud niwed mawr..."
Colin

Mae Colin Thomas o Dregarth wedi dod o hyd i lein bysgota hefyd, wedi cordeddu mewn darn mawr o wymon a phwysau plwm ar ei flaen.

Mae bron yn amhosibl ei gael yn rhydd.

Sbwriel o becynnau bwyd a diod mae pobl wedi dod efo nhw i鈥檙 traeth mae鈥檔 eu canfod amlaf wrth grwydro llwybr arfordir M么n, meddai.

Mae'n cyfaddef ei bod "yn amhosib pigo pob darn o blastig bach".

"Ond mi allwn ni gael gwared 芒鈥檙 plastig mawr cyn iddo erydu鈥檔 ddarnau llai," meddai.

Miki

Erbyn y p鈥檔awn mae鈥檙 traeth yn edrych llawer glanach. Ond mae Miki Danion o Fangor yn dal i grwydro ac yn chwilio pob modfedd sgw芒r o'r tywod am drysor anarferol.

Ers dechrau glanhau traethau mae Miki wedi ymddiddori yn y gymuned o bobl sy'n creu celf allan o'r pethau sy'n cael eu darganfod ar draethau, fel topiau Smarties a Lego.

"Unwaith rydych chi鈥檔 dechrau chwilio am dopiau Smarties, rydych chi鈥檔 eu gweld nhw ym mhobman!" meddai.

Mae鈥檔 dangos lluniau o'r creadigaethau yma ar ei ffrwd Instagram ac yn s么n am y llong cario Lego a gollodd ei chargo oddi ar arfordir Cernyw yn 1997.

Mae鈥檙 darnau Lego yn dal i gael eu golchi ar y traethau a鈥檙 .

Mae Miki wedi darganfod tagiau oddi ar becynnau eog o Ogledd America ar y traeth a bagiau creision o鈥檙 1990au.

"Mae'n dangos pa mor bell mae pethau'n teithio rownd y byd a faint o amser mae'n gymryd i'r pethau yma bydru," meddai.

Nia

Mae Nia Jones yn Swyddog Ymwybyddiaeth Morol i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a'i chefndir mewn Swoleg Morol.

Mae hi wedi gweld cynnydd yn y nifer o bobl sy'n dod i ddigwyddiadau fel heddiw.

鈥淢ae rhaglen wedi rhoi hwb mawr i annog pobl i gychwyn meddwl am eu defnydd nhw o blastig a dechrau sylwi ar faint o blastig sydd ar lan y m么r," meddai.

"Mae digwyddiad fel hyn yn rhywbeth maen nhw鈥檔 gallu ei wneud i wneud rhywbeth am y peth.

"Mae'n dangos faint o wahaniaeth allwn ni ei wneud os ydyn ni鈥檔 tynnu efo鈥檔 gilydd.

Y peth efo plastig ydy nad ydi o byth yn diflannu.

"Be' sy鈥檔 digwydd ydi fod y darnau mawr o blastig yn torri'n llai ac yn llai ac wedyn yn achosi lot o broblemau.

"Y cyntaf ydy fod anifeiliaid yn eu bwyta nhw. Rydyn ni鈥檔 clywed lot o straeon am forfilod a dolffiniaid a m么r-grwbanod wedi bwyta sbwriel.

"Mae鈥檔 mynd yn styc yn eu stumogau nhw.

"Yn ail, mae rhai anifeiliaid yn gallu mynd yn sownd ynddo a boddi.

"Hefyd, fel mae鈥檙 plastig yn torri鈥檔 ddarnau bychan bach, maen nhw wedi ffeindio bod plancton, sef anifeiliaid meicrosgopig yn y d诺r, yn bwyta tameidiau bach o blastig.

Mae鈥檙 plastig yma mor fach fel na fedrwch chi ei weld heb feicrosgop.

"Mae wedyn yn mynd i mewn i鈥檙 gadwyn fwyd: mae鈥檙 pysgod yn bwyta鈥檙 plancton ac rydyn ni, neu ddolffiniaid, yn bwyta鈥檙 pysgod.

"Felly, mae鈥檔 broblem enfawr."

A beth sy'n gwneud y broblem yn waeth meddai Nia ydy bod darnau bach o blastig hefyd yn denu cemegion a llygrwyr sy'n glynu wrthyn nhw fel magned.

Iechyd ac economi

Mae'n rhaid i bobl sylweddoli fod hyn yn effeithio arnon ni yn y pen draw, meddai Nia.

"Un o鈥檙 sialensau i ni ydy cyfleu鈥檙 neges fod hyn yn effeithio ar bobl hefyd, nid ar fywyd m么r yn unig.

"Mae鈥檔 effeithio ar iechyd pobl ac ar yr economi lleol - os ydi rhywle yn ofnadwy o fudr mae hynny鈥檔 mynd i effeithio ar dwristiaeth."

Cannoedd o boteli plastig

O gwmpas y trwyn i'r de o Borth Trecastell mae aelodau o'r RSPCA wedi bod yn helpu i gasglu'r sbwriel mwy, anoddach ei gyrraedd, o fae bach cyfagos drwy ddefnyddio rhaffau a sachau.

"Be' sy鈥檔 digwydd yn y baeau bach ydy fod sbwriel yn dod i fewn ond ddim yn cael ei dynnu allan mor hawdd."

"Be' sy鈥檔 digwydd yn y baeau bach ydy fod sbwriel yn dod i fewn ond ddim yn cael ei dynnu allan mor hawdd."

"Maen nhw wedi ffeindio lot o sbwriel mwy o faint 鈥 cynhwysyddion, trays 鈥檚gota, b诺is a channoedd o boteli yfed plastig," meddai Nia.

Mae broc m么r a sbwriel yn dod yma o bell ("ddaru ni ffeindio tag cimwch o Maine ac un o Newfoundland") ac agos ("mae yna lot o stwff lleol hefyd - mi wnes i ddod o hyd i ddarn o botel Fairly Liquid o'r 1980au hefyd").

Mae Nia'n rhestru pethau eraill sydd wedi eu canfod ar y traeth heddiw - teiars, rhaffau, cotton buds a nurdles, sy'n anodd eu casglu am eu bod mor fach.

Peledi bach o blastig ydy nurdles 鈥 y deunydd crai ar gyfer creu plastig sy'n cael eu defnyddio mewn ffatr茂oedd.

"Os oes ffatri wrth ymyl afon mae鈥檙 nurdles yn mynd i mewn i鈥檙 afon ac yn dod i mewn i鈥檙 m么r neu weithiau mae llongau cargo sy'n eu cario yn mynd i lawr," meddai Nia.

Erbyn 15:00 mae鈥檙 holl sbwriel sydd wedi ei gasglu o鈥檙 traeth ac o rai o'r traethau cyfagos wedi ei gasglu at ei gilydd i'w bwyso a'i sortio.

Mae'r sbwriel sydd wedi ei gasglu yn y sachau yn pwyso 500kg.

Wrth i haul ddiwedd y p'nawn ddechrau gostwng mae un teulu bach yn cyrraedd yn hwyr gyda鈥檜 bwcedi yn barod i helpu鈥檙 achos.

Does dim llawer o blastig ar 么l iddyn nhw ei hel yn Nhrecastell a鈥檙 traeth yn gallu anadlu eto.

Ond mae鈥檙 llanw ar ei ffordd i mewn.

Erbyn y bore bydd y plastig m芒n yn 么l a鈥檙 gwaith yn dechrau eto.

Mwy gan y 麻豆官网首页入口