Main content

Ymunwch â Cherddorfa Lockdown y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ar gyfer You Got The Love

Mae Cerddorfa Lockdown y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn ensemble rhithwir sy'n cynnwys 100 o gerddorion o chwe cherddorfa a chôr y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú a Cherddorfa Ulster.

Ym mis Mai 2020, fe'ch gwahoddir i ymuno â'r gerddorfa ar gyfer perfformiad o You Got The Love. Nid oes ots pa offeryn rydych chi'n ei chwarae na pha mor brofiadol ydych chi. Mae croeso i bawb gymryd rhan.

Sut i gymryd rhan?

Lawrlwythwch y trac gefn a'r daflen gerddoriaeth a ffilmiwch eich hun yn chwarae You Got The Love. Yna lanlwythwch eich fideo i Gerddorfa Lockdown y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú erbyn 11.59yh ddydd Sul 10 Mai.

Fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch ar y dudalen yma.

Ymunwch â dyn tywydd drymio’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú, Owain Wyn Evans, i chwarae ynghyd â Cherddorfa Lockdown y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

"Mae hon yn gân sy'n teimlo'n dda ... alla i ddim aros i'w chwarae!"

Gwyliwch Gerddorfa Lockdown y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn perfformio'r trac cefnogi ar gyfer You Got The Love

Beth sy'n digwydd wedyn?

Byddwn yn defnyddio cymaint o fideos â phosib i greu perfformiad terfynol o You Got The Love. Bydd y ffilm yn cael rhagolwg ar The One Show ar ddydd Iau 14 Mai 2020 ac yn cael ei ddangos yn llawn ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Four am 8.55yh y noson honno. Bydd y trac yn cael ei chwarae yn llawn ar draws Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio y diwrnod hwnnw hefyd!

Cyn i chi ddechrau

Darllenwch ein cyfarwyddiadau ar sut i recordio eich perfformiad. Yna lawrlwythwch y daflen gerddoriaeth a'r trac gefn a byddwch yn greadigol!

A gyda llaw…

Os nad ydych chi'n chwarae offeryn, ac nad oes gennych ddiddordeb mewn canu, rydyn ni dal eisiau gweld yr holl ffyrdd rydych chi'n bod yn greadigol yn ystod y cyfnod ‘lockdown’. Felly os nad ydych chi eisiau gwneud cerddoriaeth, ffilmiwch eich hun yn dawnsio yn lle. Paentiwch lun wedi'i ysbrydoli gan You Got The Love, neu bobwch gacen!

Lanlwythwch eich fideos a'ch lluniau yn dangos sut rydych chi'n bod yn greadigol. Byddwn yn dangos cymaint ag y gallwn yn ystod perfformiad rhithwir y Gerddorfa Lockdown.

Sylwch:

• Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 11.59yh ddydd Sul 10 Mai 2020. Lanlwythwch eich cais mewn da bryd er mwyn osgoi unrhyw panig funud olaf!

• Gall cyflwyniadau gynnwys naill ai cerddorion unigol neu grwpiau cerddorol o'ch cartref.

• Rhaid i chi fod yn 13 oed neu'n hÅ·n i berfformio gyda Cherddorfa Lockdown y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú. Ni fydd ceisiadau sy'n cynnwys unigolion o dan 13 oed yn cael eu cynnwys.

• Er mwyn i'ch cyflwyniad gael ei gynnwys, rhaid i chi ddefnyddio’r trac gefn You Got The Love a gyflenwir yma. Ni allwn dderbyn cyflwyniadau amgen.

• Dim ond un cyflwyniad y pen a dderbynnir. Ar ôl ei gyflwyno, ni ellir dirymu eich cyflwyniad, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn hapus â'ch fideo cyn ei lanlwytho.

• Ni allwn sicrhau y bydd pob cyfraniad i'r Gerddorfa Lockdown yn cael ei ddefnyddio, ond byddwn yn gwneud ein gorau i gynnwys cymaint o fideos â phosib.