Mwy am Radio Cymru 2
Yr atebion i rai o'ch cwestiynau
Beth yw Radio Cymru 2?
Gwasanaeth cerddoriaeth ac adloniant digidol yn cynnig mwy o ddewis i siaradwyr Cymraeg.
Dyma oriau darlledu
Llun-Iau rhwng 7am a 2pm a rhwng 5pm a 7pm
Gwener rhwng 7am a 9am, rhwng 11am a 2pm a rhwng 5pm a 6pm
Sadwrn rhwng 7am a 9am a rhwng 2pm a 5.30pm
Sul rhwng 7am a 9pm.
Sut mae gwrando?
Gallwch wrando ar wefan ar ffonau symudol a thabledi drwy ap 麻豆官网首页入口 Sounds, ar radio digidol DAB ac ar deledu digidol yng Nghymru.
Mae rhaglenni hefyd ar gael ar alw ar 麻豆官网首页入口 Sounds.
Dydy'r orsaf ddim ar gael ar FM.
Sut ydw i'n gwrando ar fy ff么n / tabled?
Gallwch wrando ar ein rhaglenni yn fyw a gwrando ar raglenni o'r 30 diwrnod diwethaf ar eich ffon neu dabled trwy ddefnyddio Ap 麻豆官网首页入口 Sounds.
Sut mae darganfod Radio Cymru 2 ar DAB?
Mae nifer o setiau radio digidol DAB gwahanol, a phob un yn gweithio mewn ffordd ychydig yn wahanol.
Bydd nifer o setiau radio yn diweddaru ac yn darganfod heb unrhyw gymorth.
Os na fyddan nhw, yn gyffredinol mae angen chwilio am fotwm neu opsiwn "auto tune" neu "auto scan".
Efallai y bydd yn rhaid dod o hyd i opsiwn "full scan" yn hytrach na "local scan".
Rwy'n clywed rhaglenni Radio Cymru ar Radio Cymru 2
Mae yn cynnig Sioe Frecwast bob bore.
Os gwrandewch chi ar foreau Llun i Iau rhwng 7 - 10, fe gewch glywed gyda Rhydian Bowen Phillips. Rhwng 10 - 2 Lisa Gwilym sydd wrth y llyw cyn ail-ymuno gyda Radio Cymru am 2 i glywed Ifan Jones Evans. Yna rhwng 5pm a 7pm mae cyfle i glywed dwy awr o restr chwarae ar Traciau Radio Cymru 2.
Lisa Angharad sy'n cyflwyno'r Sioe Frecwast ar fore Gwener, tra bo Dom James yn cyflwyno rhwng 11 - 2 (ar ôl ymuno gyda Trystan ac Emma). Yna ar ôl ymuno gyda Tudur Owen ar Radio Cymru rhwng 2 a 5, gallwch glywed awr o restr chwarae rhwng 5pm a 6pm gyda rhaglen Parti Nos Wener.
Daniel Glyn sydd i'w glywed ar fore Sadwrn o 7 - 9, a rhwng 2 a 5.30 mae 'na deir awr a hanner o gerddoriaeth ar raglenni Dewis, Parti'r Penwythnos a Nôl i'r 90au.
Ar ddydd Sul gallwch ymuno gyda Mirain Iwerydd o 7 tan 10. Ac yna 11 awr o gerddoriaeth di-dor tan 9pm gyda dilyniant o restrau chwarae.
Y bwriad o ail-ymuno gyda Radio Cymru yw sicrhau bod modd i'n cynulleidfa wrando'n ddi-dor ar raglenni Cymraeg drwy'r dydd.
Sut ydw i'n cael Radio Cymru 2 ar systemau digidol Alexia, Sonos, Naim, Tune-In?
Mae'r cwmnïau sy'n cynhyrchu'r systemau digidol yma yn ymwybodol o'r gwasanaeth.
Mae Radio Cymru 2 ar gael trwy wasanaeth Radio Tune In.
Mae systemau digidol Sonos, Alexia a'u tebyg yn defnyddio Tune In er mwyn dod o hyd i Radio Cymru 2. Mae Radio Cymru 2 ar gael ar y systemau digidol yma.
Manylion Radio Cymru 2 ar y teledu
Mae modd gwrando ar Radio Cymru 2 ar deledu digidol yng Nghymru
Freeview, YouView, BT TV, Talk Talk TV
Sianel 713
(Cymru yn unig)
Sky
Sianel 0154
(Cymru yn unig, ond mae modd ychwanegu tu allan i Gymru trwy ddewis "add channels" neu "manual tuning")
Freesat
Sianel 718 yng Nghymru
Sianel 735 tu allan i Gymru
Virgin
Sianel 913
Ble mae Radio Cymru 2 ar gyfryngau cymdeithasol?
Dilynwch ni ar , ac ar .
Sut mae anfon adborth?
Ebost
Gallwch ebostio unrhyw sylwadau at radiocymru2@bbc.co.uk
Ffôn
Y rhif cyswllt tra bod Y Sioe Frecwast ar yr awyr yw 03703 500 500
Gallwch hefyd anfon neges destun i 67500
Cyfradd y DU yw 0370 sy'n costio dim rhagor na rhifau daearyddol 01/02. Gellir recordio galwadau at ddibenion hyfforddiant.
Sut mae cysylltu?
Hoffech chi gysylltu â Radio Cymru 2?
Ysgrifennwch atom, danfonwch ebost, neu codwch y ffôn.
Ewch i'r
Beth yw Radio Cymru 2?
Yr atebion i rai o'ch cwestiynau.