Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iPlayer Radio ar hyn o bryd

Robin McBryde a Caryl Thomas

Rhodri Ogwen Williams yn gwahodd gwesteion i rannu eu hatgofion trwy'r bwydydd sydd wedi chwarae rhan allweddol yn eu bywydau. Guests talk about foods important to their lives.

45 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 19 Medi 2012 13:15

Lleoliad y pryd bwyd : Gwesty’r Arth ‘Bear’ yn y Bontfaen

Lleoliad y pryd bwyd : Gwesty’r Arth ‘Bear’ yn y Bontfaen

Mae hanes y dafarn a'r gwesty hwn yn dyddio n'ol i'r ddeuddegfed ganrif. Mae'n fwy adnabyddus efallai fel y man ble byddai pobl yn aros tra roedd y ceffylau'n cael eu newid ar daith y goets fawr o Gaerdydd i Abertawe neu Lundain. Mae na son fod carcharorion yr ardal yn cael eu cadw yn y seler - sydd erbyn hyn yn stafell giniawa - cyn iddyn nhw gael eu crogi ar y tir comin uwchben y dref!

Ìý

Dyma'r tro cyntaf i'r ddau westai Robin McBryde a Caryl Thomas gyfarfod ond dros bryd o fwyd, maent yn sylweddoli fod ganddynt lawer yn gyffredin. Mae pob cwrs wedi ei ddewis ganddyn nhw a hynny am yr atgofion sy'n gysylltiedig â'r bwyd.

Ìý

Past Cyri Gwyrdd

  • 12 tshili bach gwyrdd wedi eu torri

  • 2 sialotsyn wedi eu torri

  • 4 ewinedd garlleg wedi eu torri

  • darn modfedd o galangal neu sinsir, wedi ei dorri

  • pecyn bach o goriander

  • 6 darn o lemon grass wedi eu torri

  • sest leim

  • 10 pupren du

  • hanner llwy de o hadau coriander

  • chwarter llwy de o hadau cumin

  • 6 llwy ford o olew<?xml:namespace prefix = o ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" />

Ìý

Rhostiwch yr hadau coriander a cumin mewn padell ffrio sych a wedyn rhaid eu malu yn fân ynghŷd â’r pupren du.

Ìý

Cyfunwch bopeth, heblaw am yr olew, mewn cymysgydd drydan, ac ar ôl ychydig funudau, ychwanegwch yr olew i wneud past eithaf sych.

Ìý

Mi wnaiff y past yma bara yn yn y rhewgell am rhyw dair wythnos.

Ìý

Ìý

Cyri Gwyrdd Cyw Iâr i 6 o bobl

Ìý

3 llwy bord o Bast cyri gwyrdd

2 tin 400 ml o laeth cneuen goco, neu 1 tin a 400 ml o stoc

2 lwy bord o nam pla – saws pysgodyn

2 lwy de o sigwr, (sigwr palmwydden os yn bosib)

6 deilen leim kaffir, neu sest leim

sudd 1 leim

6 brest cyw iâr wedi ei dorri

200g o lysiau gwyrdd

llond dwrnaid o pea aubergines

llond dwrnaid o basil thai melys

Ìý

Ffriwch y past cyri mewn frympan sych am bum munud i ryddhau’r gwynt aromatic.

Ìý

Ychwanegwch y llaeth cneuen goco, y nam pla, y sigwr, y dail a’r sudd leim.

Ìý

Aroswch ychydig i’r llaeth gymryd blas y cynhwysion eraill.

Ìý

Ychwanegwch y cyw iâr, y llysiau gwyrdd a’r pea aubergines, a’i goginio ar wres isel nes bod y cyw iâr wedi ei goginio.

Ìý

Ychwanegwch y basil thai melys.

Ìý

Gweiniwch gyda reis thai a choriander mân wedi ei dywallt drosto.

Ìý


Ìý

Ìý

Darllediadau

  • Sul 16 Medi 2012 13:16
  • Mer 19 Medi 2012 13:15