Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆官网首页入口 iPlayer Radio ar hyn o bryd

04/07/2014 Visas i ymwelwyr; beicio a dyfodol tafarndai

Y straeon difyr yn fyw o'ch cymuned chi. Ffoniwch, e-bostiwch, neu sgrifennwch. A chance to react to the day's topics with Garry Owen.

Bydd rhaid i rai ymwelwyr 芒 Phrydain dalu bond o 拢3,000 pan bo nhw'n cael eu visas,ac os nad ydyn nhw yn gadael y wlad o fewn yr amser penodedig maen nhw'n collir arian. A ddyle Prydain ddangos mwy o groeso i bobl o dramor...neu oes rhaid cael mesurau fel hyn o ran diogelwch y wlad...neu er mwyn rhwystro pobl rhag aros yn y wlad yn anghyfreithlon?

Ar hyn o byd mae pryder yn Nyffryn Teifi ar 么l i'r Swyddfa Gartre wrthod rhoi visas i dri gweinidog sy'n gweithio ar gyrion y Sahara yn Burkina Faso i ymweld ag eglwysi ac ysgolion yno.

Hefyd fe fydd Garry Owen yn clywed mwy am ddiogelwch beicwyr a modurwyr ar y ffordd. Nifer o bobl wedi ymateb ar 么l trafodaeth yn gynharach yn yr wythnos ai'r beicwyr neu fodurwyr sydd fwya perygl ar y ffordd. Ar drothwy y Tour de France - sy'n cychwyn yn Sir Efrog dros y penwythnos - fe fyddwn ni'n clywed mwy gan feicwyr a modurwyr

A be ydi dyfodol ein tafarndai traddodiadol? A oes angen deddfu i'w diogelu? Mae nifer o dafarndai yn cau pam? Ydi bobl yn dal i'w mynychu?

Taro'r Post rhwng 1 a 2 heddiw gyda Garry Owen. Cysylltwch gyda'r t卯m 03703 500500; neges destun 67500; tarorpost@bbc.co.uk; @bbcradiocymru #tarorpost neu cysylltwch yma.

1 awr

Darllediad diwethaf

Gwen 4 Gorff 2014 13:00

Darllediad

  • Gwen 4 Gorff 2014 13:00