Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iPlayer Radio ar hyn o bryd

12/03/2015 - Boddi dan goncrid?

Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt. An investigative look at topics in the news in Wales and beyond.

Ymchwilio i gynllun fydd yn treblu maint Bodelwyddan - a chwynion bod gormod o dai yn cael eu codi yng Nghymru.

Yn gynharach eleni rhoddwyd caniatâd i godi 1,700 o dai ym Modlewyddan yn Sir Ddinbych mewn cynllun fyddai’n treblu maint y pentref. Ond ydi’r gymuned leol wedi cael gwrandawiad teg – neu ydi eu pryderon wedi eu anwybyddu o dan bwysau i godi tai ar gyfer y dyfodol?

Manylu fydd yn clywed cwynion gan ymgyrchwyr bod yr awdurdodau wedi anwybyddu eu tystiolaeth nhw ynglyn ag effaith y datblygiad – yn cynnwys pryderon am lifogydd yn yr ardal. Bydd y rhaglen hefyd yn ymweld a rhannau eraill o Gymru ac yn gofyn os ydi cynlluniau i adeiladu gormod o dai yn mynd i foddi cymunedau.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 15 Maw 2015 17:30

Darllediadau

  • Iau 12 Maw 2015 12:31
  • Sul 15 Maw 2015 17:30

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad