Siân Davies - y ferch o'r Gorllewin a chwlt Comrade Bala
Ddiwrnod cyn ei ddedfrydu ymchwiliad i'r cyswllt rhwng yr arweinydd cwlt Aravindan Balakrishnan ag ardal Tregaron. A look at the link between Aravindan Balakrishnan and Tregaron.
Beth wnaeth i ddynes ifanc o Dregaron dorri pob gysylltiad gyda’i theulu, ei ffrindiau a’i chefndir breintiedig er mwyn treulio gweddill ei bywyd mewn cwlt yn Llundain?
Ar drothwy dedfrydu’r arweinydd cwlt Aravindan Balakrishnan am droesddau rhyw a chadw pobl yn erbyn eu hewyllys, Manylu sy’n dweud stori Siân Davies.
Mae lluniau’r ferch o Dregaron wedi eu gweld ar draws y byd ers i aelodau o’r cwlt ddianc yn 2013 gan arwain at arestio’r arweinydd carismataidd ‘Comrade Bala’, ond pwy oedd Siân Davies a beth wnaeth iddi gefnu ar ei gorffennol er mwyn byw bywyd cyfrinachol hyd nes ei marwolaeth dan amgylchiadau anesboniadwy?
Mae’r rhaglen hon yn clywed gan ffrindiau a pherthnasau oedd yn ei hadnabod ar wahanol gyfnodau: cyd-ddisgybl a ddechreuodd yn yr ysgol gynradd ar yr un diwrnod; ei ffrind gorau ar ôl iddi symud i ysgol fonedd; dyn fu’n rhannu fflat gyda hi yn y brifysgol; ditectif a geisiodd ei darbwyllo i adael y cwlt; a’i chyfneither – un o’r bobl olaf i siarad â hi cyn ei marwolaeth.
Darllediad diwethaf
Clip
Darllediad
- Iau 28 Ion 2016 12:32Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.