Sut fu farw Trooper Aled Jones?
Rhaglen am frwydr rhieni milwr o Gymru i brofi nad lladd ei hun wnaeth eu mab. The story of a Welsh couple fighting to prove that their soldier son did not kill himself.
Wrth i’r cwest barhau i farwolaeth Cheryl James o Langollen yng ngwersyll milwrol Deepcut, dyma hanes teulu arall o Gymru sy’n honni nad ydyn nhw wedi cael y gwir am farwolaeth eu mab deunaw oed – y tro hwn yn Bosnia, ugain mlynedd yn ôl.
Aeth Aled Martin Jones o Chwilog i Bosnia ym Mehefin 1996. Dair wythnos ar ôl cyrraedd, caofdd ei ddarganfod yn farw. Roedd wedi ei saethu’n ei ben, a’i wn wrth ei ochr. Roedd ymchwiliad gan heddlu’r fyddin, a dyfarnodd crwner iddo ladd ei hun.
Ond dydi teulu Aled Jones ddim yn credu mai lladd ei hun wnaeth o. Maen nhw’n dweud nad oedd arwydd o gwbl ei fod yn isel ei ysbryd. Maen nhw hefyd yn dweud bod nifer o anghysonderau yn adroddiad y fyddin.
Yn y rhaglen hon, mae’r teulu yn codi amheuon am y dystiolaeth, ac yn feirniadol o’r modd maen nhw wedi eu trin gan y fyddin dros y ddau ddegawd diwethaf.
Mae’r fyddin yn dweud i’r ymchwiliad gael ei gynnal yn unol â’r rheolau, ac i’r crwner gael ei fodloni.
Gohebydd y rhaglen ydi Anna-Marie Robinson.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Iau 10 Maw 2016 12:30Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.