Glynllifon - Siom Priodasau
Rhai cyplau yn honni eu bod nhw wedi eu siomi hefo trefniadau priodas gwraig fusnes o Gaer ym Mhlas Glynllifon a'r Guildhall yng Nghaer.
Mae cyn berchennog Plas Glynllifon ger Caernarfon wedi ymddiheuro wrth gyplau sy'n honni ei bod hi wedi gwneud smonach o'u trefniadau priodas.
Ar Manylu mae un teulu yn dweud iddyn nw fynd a Tara Khalid i'r llys ar ol iddi hi ddweud fod y gwesteion yn y briodas ym Mhlas GLynllifon ger Caernarfon wedi creu difrod a llanast yn yr adeilad hynafol.
Ond mewn achos llys sirol mi gafodd hynny ei wadu gan Robin a Rhian Williams.
Cafodd dros fil o bunnau ei ddyfarnu iddyn nw. Yn y rhaglen mae sawl cwpl arall yn dweud eu bod yn anhapus a threfniadau priodas Ms. Khalid yn y Guildhall yng Nghaer.
Mewn datganiad mae hi'n dweud ei bod yn ymddiheuro am unrhyw siom mae hi wedi ei achosi.
Mae hi hefyd yn tanlinellu ei bod hi'n wynebu problemau ariannol personol ac yn wael ei hiechyd.
Ychwanegodd bod nifer o bobl wedi cael profiadau da yn ei lleoliadau a'i bod hi bob amser wedi ymddyn yn broffesiynol a chyda gonestrwydd.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Clip
-
Robin Williams, gwadu honiadau o ddifrod
Hyd: 01:16
Darllediadau
- Iau 26 Mai 2016 12:30麻豆官网首页入口 Radio Cymru
- Sul 29 Mai 2016 14:00麻豆官网首页入口 Radio Cymru
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.