Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆官网首页入口 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Rhestrau Bwced

Bethan Gwanas, Aled Wyn a Carwyn Tywyn yn trafod pethau i'w cyflawni, breuddwydion i'w gwireddu a phrofiadau i'w cael cyn marw. Caryl and guests discuss bucket lists.

Rhestr o bethau i'w cyflawni, breuddwydion i'w gwireddu a phrofiadau i'w cael cyn marw ydi rhestr fwced - rhywbeth sy'n dod yn fwyfwy cyffredin gydag amgylchiadau llunio rhestr o'r fath yn amrywio o berson i berson.

Fel rhywun sy'n ystyried ei hun yn dipyn o anturiaethwr, mae Bethan Gwanas eisoes wedi gwneud nifer o bethau sydd ar restr fwced sawl un. Oes ganddi restr o gwbl?

Mae Aled Wyn yn ystyried rhestr fwced yn rhywbeth eithaf hunanol. Mae'r pethau sydd arnyn nhw'n medru bod yn gostus iawn, ac oni fyddai'n well i ni wneud rhywbeth er budd eraill?

Dadl Carwyn Tywyn, ar y llaw arall, ydi fod canolbwyntio ar bethau mawr i'w gwneud yn y dyfodol yn gwneud i ni golli'r cyfleoedd llai sydd o'n cwmpas ni bob dydd.

Mae'r tri yn ymuno 芒 Caryl i drafod eu gwahanol safbwyntiau.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 20 Hyd 2016 12:00

Darllediad

  • Iau 20 Hyd 2016 12:00

Podlediad