Angharad Mair
Catrin Heledd sy'n herio panel i'w pherswadio mai digwyddiad chwaraeon o'u dewis nhw yw'r pwysicaf dros y penwythnos. Three panellists get to sell a sporting event of their choice.
Beth yw digwyddiad chwaraeon pwysica'r penwythnos? Dyna mae Catrin Heledd yn ei ofyn i banelwyr Chwarae Dy G锚m.
Angharad Mair sy'n ymuno 芒 Dylan Ebenezer a Gareth Rhys Owen yn y rhaglen hon, ac mae'n mynd 芒 ni yr holl ffordd i Efrog Newydd a'r marathon blynyddol yno.
Dyw Dylan ddim yn aros yng Nghymru chwaith, ond yn hytrach yn mynd dros y ffin wrth edrych ymlaen at g锚m b锚l-droed Arsenal v Tottenham Hotspur.
Nid yn annisgwyl, mae Gareth yn dewis g锚m brawf Cymru v Awstralia yng Nghaerdydd.
Trwy gyfres o rowndiau, mae'r tri yn cael cyfle i berswadio Catrin mai nhw sydd wedi dewis digwyddiad pwysica'r penwythnos.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Gwen 4 Tach 2016 18:30麻豆官网首页入口 Radio Cymru