Cymru ar y Sgr卯n Fawr
Nia Roberts yn trafod Cymru ar y sgr卯n fawr, a sut mae Euro 2016 wedi ysbrydoli awduron. Nia Roberts looks at how Wales has been portrayed on the big screen.
75 mlynedd ers rhyddhau How Green Was My Valley, yn seiliedig ar nofel Richard Llewellyn am gwm glofaol yn ne Cymru, mae Nia'n cael hanes y ffilm gan Lowri Cooke. Mae hi hefyd yn sgwrsio gyda Kate Woodward am sut mae Cymru wedi cael ei phortreadu mewn ffilmiau ers hynny, yn enwedig yn y 90au a dechrau'r ganrif hon.
Nia Mon, bardd y mis Radio Cymru, sy'n darllen cerdd wedi'i hysbrydoli gan y gosodiad celf Poppies: Weeping Window yng Nghastell Caernarfon.
Ac i ba raddau mae llwyddiant Cymru yng nghystadleuaeth Euro 2016 wedi ysbrydoli awduron? Mae Nia'n holi Llion Jones, sy'n cyhoeddi cyfrol o gerddi am y daith i'r rownd gynderfynol, a Daniel Davies a ddefnyddiodd y bencampwriaeth yn gefndir i'w nofel newydd.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediadau
- Mer 9 Tach 2016 12:30麻豆官网首页入口 Radio Cymru
- Sul 13 Tach 2016 17:00麻豆官网首页入口 Radio Cymru