Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆官网首页入口 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Datganiad yr Hydref a Chyllid Myfyrwyr

Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod Datganiad yr Hydref a chyllid myfyrwyr. Vaughan Roderick and guests discuss the Autumn Statement and student finance.

Ddeuddydd wedi ei foment fawr yn Nh欧'r Cyffredin, datganiad y Canghellor Philip Hammond sy'n cael prif sylw Vaughan Roderick a'i westeion. Roedd 'na rybudd fod y bleidlais dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn ergyd i'r economi, yn y tymor byr o leiaf. Ai gosod targedau isel, yna gobeithio y bydd pethau'n gwella, yw'r ffordd ymlaen?
Mae Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi newidiadau i gyllid myfyrwyr o Gymru. Yn hytrach na thalu ffioedd dysgu ar eu rhan, bydd pawb sy'n mynd i brifysgol yn un o wledydd Prydain yn cael o leiaf 拢1,000 y flwyddyn tuag at gost byw, gydag arian ychwanegol ar gael yn seiliedig ar incwm y teulu. Ond mae'n ofid i rai nad oes rhagor o bwyslais ar ddenu myfyrwyr yn 么l i Gymru ar 么l graddio.
Guto Bebb, Angharad Mair a Dr Zoe-Morris Williams sy'n ymuno 芒 Vaughan.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 25 Tach 2016 12:05

Darllediad

  • Gwen 25 Tach 2016 12:05

Podlediad