Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆官网首页入口 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gwirionedd Emosiynol

Trafodaeth ar wirionedd emosiynol mewn gwleidyddiaeth, a rhestr Open Doors o wledydd ble mae Cristnogion yn cael eu herlid. A discussion about emotional truth in politics.

Mae Donald Trump yn wleidydd sy'n hollti barn, ond does dim gwadu ei fod yn awyddus i dorri ei gwys ei hun heb deimlo'r angen i gydymffurfio gyda rheolau arferol gwleidyddiaeth. Dafydd Trystan a Gethin Rhys sy'n ymuno 芒 John Roberts i drafod os ydy'r agwedd yma'n codi cwestiynau yngl欧n 芒 sut y dylai gwleidyddion eraill ymddwyn.

Mae Open Doors wedi cyhoeddi ei rhestr blynyddol o wledydd ble mae Cristnogion yn cael eu herlid. Matthew Rees o'r elusen sy'n esbonio'r arwyddoc芒d.

Cafodd y cylchgrawn Cristion ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn 1983. Wrth i'r 200fed rhifyn ymddangos, mae John yn cael cwmni'r golygydd cyntaf, Enid Morgan, ac un o'r criw golygyddol presenol, Rhys Llwyd.

Ac ar drothwy Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol, mae Gethin Rhys yn trafod bwriad yr wythnos a'r thema eleni.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 15 Ion 2017 08:00

Darllediad

  • Sul 15 Ion 2017 08:00

Podlediad