Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆官网首页入口 iPlayer Radio ar hyn o bryd

T欧'r Arglwyddi a Iechyd Meddwl

Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod T欧'r Arglwyddi a iechyd meddwl. Vaughan Roderick and guests discuss the House of Lords and mental health.

Wedi i Aelodau Seneddol bledleisio o blaid trafodaethau ffurfiol yngl欧n 芒 gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae Mesur Brexit nawr yn mynd gerbron yr Arglwyddi. Yn 么l aelod o'r Llywodraeth, fe fydd yna alw am ddiddymu'r t欧 anetholedig os na fyddan nhw'n cefnogi penderfyniad T欧'r Cyffredin. Sylw teg, neu a yw'r broses o gael yr Arglwyddi i graffu ar bethau yn rhan hollbwysig o ddeddfwriaethu?

Mae ystadegau diweddar yn rhybuddio fod un o bob pedwar person yn debygol o fod 芒 phroblemau iechyd meddwl yn ystod eu bywyd. Yn 么l ymchwil a gafodd ei gyhoeddi gan ymgyrch Amser i Newid, mae agweddau pobl tuag at broblemau iechyd meddwl yn fwy positif nag y buon nhw, ond a oes rhagor o waith i'w wneud?

Mae 'na ddiwrnod i bopeth erbyn hyn - diwrnod y pizza, diwrnod hen bethau, a hyd yn oed diwrnod yr ymbar茅l. Petae'r panelwyr yn cael dewis diwrnod i ddathlu un peth arbennig, beth fyddai hynny tybed?

Catrin Gerallt, Andrew Tamplin a Si么n Jones sy'n ymuno 芒 Vaughan Roderick.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 10 Chwef 2017 12:00

Darllediad

  • Gwen 10 Chwef 2017 12:00

Podlediad