Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆官网首页入口 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gwleidyddiaeth a Chwaraeon

John Roberts a'i westeion yn trafod yr etholiad cyffredinol, a'r gwersi sydd i'w dysgu o fyd chwaraeon. John Roberts asks what churches think people should consider before voting.

Ar drothwy'r etholiad cyffredinol, pa gwestiynau mae'r eglwysi'n meddwl y dylai pobl eu hystyried wrth bleidleisio? Gethin Rhys o Cyt没n sy'n trafod.

Mae Nigel Davies yn gweithio i Fenter Ieuenctid Cristnogol Sir G芒r, ac yn trefnu sawl digwyddiad chwaraeon. Ar ddechrau cyfnod prysur ym myd y campau, mae'n ystyried yr hyn y gall chwaraeon ei ddysgu i ni am fywyd.

Wedi angladd dyneiddiol yn y Senedd i ffarwelio 芒'r cyn-brif weinidog Rhodri Morgan, mae John yn holi Androw Bennett o Gymdeithas y Dyneiddwyr am yr angladd, ac am ei brofiadau yntau o arwain angladdau dyneiddiol.

Rydyn ni hefyd yn ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pen-bont-ar Ogwr, Taf ac El谩i, i glywed sylwadau rhai o aelodau Bwrdd Syr IfanC wrth iddyn nhw drafod iechyd meddwl, ac i glywed am ap Cymraeg newydd gan Scripture Union. Beth yw barn Catrin Alwen Jones a'i phlant ar Arwyr Ancora?

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 4 Meh 2017 08:00

Darllediad

  • Sul 4 Meh 2017 08:00

Podlediad