Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆官网首页入口 iPlayer Radio ar hyn o bryd

17/01/2018

Beicio yn yr Andes, hawl dynion i wylo'n gyhoeddus, lleoliadau gigs bychain a chawsiau Cymru yn ennill eto. Aled hears about an award-winning Welsh cheese.

Mae caws Black Bomber gan gwmni Caws Eryri wedi cael ei enwi fel caws gorau Prydain am y drydedd gwaith yn olynol, ond beth sydd mor arbennig amdano a pham fod pawb yn gwirioni cymaint efo'r cosyn bach du 'ma sy'n cael ei gynhyrchu yn y Rhyl? Eurwen Richards, y beirniad caws, sydd yn cynnig atebion.
Mae rhai o gerddorion enwocaf y byd pop wedi dweud fod chwarae gigs mewn lleoliadau bychain yn allweddol i'w llwyddiant. Gyda Chaerdydd wedi ei henwi yn Ddinas Gerddoriaeth gyntaf Prydain mae Lisa Jen o'r band 9Bach yn rhoi ei barn.
Ydi'n dderbyniol bellach i ddynion wylo'n gyhoeddus? Mae hysbyseb ddiweddara'r Fyddin yn awgrymu hynny. Y cymdeithasegydd Rhian Hodges sy'n trafod.
Ac Adrian Bradley sydd yn trafod yr her o feicio i lawr mynyddoedd yr Andes am bum niwrnod, ac yntau wedi cael triniaeth lawfeddygol ar ei gefn.

1 awr, 30 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 17 Ion 2018 08:30

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Aled Hughes

Darllediad

  • Mer 17 Ion 2018 08:30