Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆官网首页入口 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Hawl i Farw ac Wythnos Cymorth Cristnogol

John Roberts a'i westeion yn trafod yr hawl i farw, Wythnos Cymorth Cristnogol, De Corea a'r Rheoliad Diogleu Data Cyffredinol. John Roberts and guests discuss ethics and religion.

Ychydig ddyddiau cyn i Senedd Guernsey drafod mesur i ganiat谩u cymorth i farw i bobl mewn rhai amgylchiadau, mae'r cyn-ddirprwy Elis Bebb yn ymuno 芒 John Roberts i esbonio beth yn union sy'n cael ei drafod, a sut ymateb sydd wedi bod gan bobl yr ynys.

Pwyslais Wythnos Cymorth Cristnogol eleni yw sefyllfa'r dros ddeugain miliwn o bobl sydd wedi'u dadleoli o amgylch y byd, yn arbennig y rhai sydd wedi aros o fewn ffiniau eu gwlad eu hunain, a Haiti yn benodol. Mae John yn sgwrsio gyda Tom Defis o'r elusen, a fu draw yn Haiti wedi'r daeargryn yno ychydig flynyddoedd yn 么l, yn ogystal 芒 Catrin Roberts o Bwyllgor Cenedlaethol Cymorth Cristnogol Cymru.

Mae Hefin Jones yn Ne Corea fel aelod o Bwyllgor Gwaith Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd, ac yn rhannu peth o hanes yr ymweliad a'r trafod.

Hefyd, beth fydd effaith y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ar eglwysi Cymru? Meirion Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, sy'n s么n am y cyngor maen nhw wedi ei roi i'w haelodau.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 13 Mai 2018 08:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Bwrw Golwg

Darllediad

  • Sul 13 Mai 2018 08:00

Podlediad