Brexit i Bump
Pump o bobl yn trafod dyfodol y diwydiant amaeth, naw mis cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nine months before leaving the EU, five people discuss the future of Welsh farming.
Naw mis cyn i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, mae 'na rybudd gan academydd blaenllaw bod angen i amaethwyr Cymru baratoi ar gyfer newid. Yn 么l yr Athro Wynne Jones, cyn-bennaeth Coleg Amaeth Harper Adams, dydi gwneud dim byd ddim yn opsiwn. Mae'n ffyddiog, serch hynny, y bydd ffermwyr Cymru'n medru ymdopi.
Mae Cyfarwyddwr Amaeth HSBC yng Nghymru a de-orllewin Lloegr hefyd yn ffyddiog. Yn 么l Euryn Jones, mae safon uchel y bobl ifanc sy'n dod yn rhan o'r diwydiant ar hyn o bryd yn golygu y bydd amaeth yng Nghymru yn goroesi.
Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys barn tri o ffermwyr, sef Caryl Haf Jones o Landdewi Brefi, Rhodri Griffiths o Lanilar, a Paul Williams o Bentrefoelas.
Darllediad diwethaf
Clip
-
Dyfodol y byd amaeth
Hyd: 01:23
Darllediadau
- Iau 5 Gorff 2018 12:30麻豆官网首页入口 Radio Cymru & 麻豆官网首页入口 Radio Cymru 2
- Sul 8 Gorff 2018 16:00麻豆官网首页入口 Radio Cymru & 麻豆官网首页入口 Radio Cymru 2
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.