Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆官网首页入口 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Anrhydeddu Gareth F. Williams

Y diweddar Gareth F. Williams yw enillydd Tlws Mary Vaughan Jones 2018. A look at the arts, including the late Gareth F. Williams winning the 2018 Mary Vaughan Jones Award.

Golwg ar y celfyddydau, gan gynnwys cyflwyno Tlws Mary Vaughan Jones 2018 i deulu Gareth F. Williams mewn seremoni ym Mhortmeirion. Mae'n cael ei roi bob tair blynedd gan Gyngor Llyfrau Cymru, i rywun a wnaeth gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru.

Steffan Donnelly sy'n s么n am ddrama go wahanol gan gwmni Invertigo. Mae Steffan ei hun yn chwarae un rhan yn Derwen, wrth i'r rhan arall gael ei chwarae gan actor gwahanol bob nos, sy'n dod ar y llwyfan heb weld gair o'r ddrama cyn i'r perfformiad ddechrau.

Sylw hefyd i arddangosfa ddiweddaraf yr artist Elfyn Lewis, ac mae'r cyfansoddwr Guto Puw yn trafod ei waith diweddaraf yntau, Uwchsonig, sydd i gael ei berfformio mewn noson o gerddoriaeth newydd o'r enw Uproar.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 28 Hyd 2018 17:00

Darllediadau

  • Mer 24 Hyd 2018 12:30
  • Sul 28 Hyd 2018 17:00