Brwydro Olaf
Gyda heddwch ar y gorwel, profiadau rhai yn y brwydro olaf sy'n cael sylw Si芒n Sutton. First-hand accounts from the final battles of the First World War.
Gyda diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf o fewn cyrraedd, mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio ar rai a brofodd y brwydro olaf, a'r colledion hwyr.
Cyn ymuno 芒'r fyddin, roedd David Samuel Roberts yn l枚wr a oedd yn byw mewn tyddyn yn Nantgaredig, rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin.
Dim ond dyflwydd oed oedd ei ferch, Mary, pan aeth ei thad i Ffrainc yn hydref 1917, ac roedd ei mham, Margaret, yn disgwyl ei hail blentyn.
Ni chafodd David Samuel y cyfle i gwrdd 芒'i fab, William, a gafodd ei eni ar 么l iddo gyrraedd Ffrainc.
Yn bump ar hugain oed, cafodd David Samuel ei ladd ddeufis cyn y cadoediad.
Ganrif union i'r diwrnod, teithiodd ei nai, Geraint, i Ffrainc, i roi teyrnged i'r ewythr na chafodd gyfle i ddod i'w adnabod.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Llun 12 Tach 2018 12:30麻豆官网首页入口 Radio Cymru & 麻豆官网首页入口 Radio Cymru 2
Dan sylw yn...
Y Rhyfel Mawr—Cymry 1914-1918
Rhaglenni Radio Cymru yn nodi canrif ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.