Y Capel a'r Dafarn
Crwydro o'r Capel i'r Dafarn drwy archif, atgof a ch芒n yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Ymysg y pigion, cawn glywed Tudur Dylan Jones ac Ifan Gruffydd yn y dafarn yn rownd y geiriau mwys yn y g锚m banel Pwl Bach Arall. Yna, o'r dafarn i'r Capel a hanes y Gymanfa Bwnc yng nghwmni Tom Evans a Ben Owens.
Faint ohonoch sy' di galw yn y Dyffryn Arms yng Nghwm Gwaun a chael croeso cynnes a pheint o Bass yng nghwmni Bessie? Mair Tomos Ifans sy'n galw heibio un o dafarndai mwyaf eiconig Cymru.
Cyfle i glywed T Glynne Davies yn holi Hannah Griffiths, Ystradgynlais am ei ewythr, yr emynydd Daniel Protheroe. Fe ysgrifennodd a threfnodd sawl emyn, gan gynnwys 'Price', 'Bryn Calfaria', 'Cwmgiedd' a 'Nidaros'.
Cawn wrando ar John Bevan yn cyflwyno rhaglen ar Gapeli Cymru ac yn holi Tecwyn Vaughan Jones am bwysigrwydd y seti yn y Capel.
Y Parchedig Richard Jones, Cwmgors ac Eigra Lewis Roberts sy鈥檔 trafod y Sul traddodiadol.
Ymweliad 芒 thafarn eiconig arall sef Y Gl么b ym Mangor Ucha' wrth i Gerallt Williams ddathlu un mlynedd ar hugain o fod yn gyfrifol am y dafarn. Yn ogystal 芒 chlywed gan Gerallt, mae Gari Wyn hefyd yn sgwrsio gyda Wil a Mags, gan mai nhw oedd yn gyfrifol am sefydlu Cymreictod Y Gl么b yn y saithdegau.
Cawn glywed Gwilym Jones ac Idris Davies o Faldwyn yn adrodd straeon digri am weinidogion, a sgwrs gyda Huw ac Enid Edwards a oedd yn agor tafarn am y tro cyntaf yn 2012 sef Ty鈥檔 Llan, Llandwrog.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 24 Hyd 2021 14:00麻豆官网首页入口 Radio Cymru 2 & 麻豆官网首页入口 Radio Cymru