Y Ceffyl
Sgyrsiau gydag amryw o gyfranwyr sy'n cadw ceffylau yw canolbwynt y rhaglen yr wythnos hon. This programme includes interviews with people who work with horses in their daily lives.
Y ceffyl yw canolbwynt y rhaglen yma, wrth i Terwyn Davies sgwrsio gydag amryw o bobl yng Nghymru sy'n cadw neu yn gweithio gyda cheffylau.
Ifor Lloyd, Bridfa Derwen, Pennant, Ceredigion sy'n sôn am gadw cobiau a merlod Cymreig gydol ei oes.
Hefyd, sgwrs gyda Janet Davies o’r Bontfaen sy'n magu ceffylau rasio – a’r llwyddiant y mae wedi’i gael yn y diwydiant.
Hanes cwmni Ceffylau Ffilm Dolbadarn gan Dylan Jones, sy’n hyfforddi ceffylau ar gyfer serennu mewn cyfresi teledu a ffilmiau.
A Huw Murphy ac Enid Cole yn nodi 30 mlynedd ers agor Fferm Ceffylau Gwedd Dyfed yn Eglwyswrw, Sir Benfro.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediadau
- Sul 22 Hyd 2023 07:00Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru
- Sul 7 Ion 2024 07:00Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru