Main content

02/03/2025

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Mae’n wythnos dathlu Diwrnod y Llyfr – felly dyma raglen arbennig yn rhoi sylw i’r byd llyfrau a chyhoeddi yng Nghymru.

Yn y rhaglen heddiw mae Ffion yn sgwrsio gyda Gwyn Siôn Ifan, rheolwr siop lyfrau Awen Meirion yn Y Bala ers dros 40 mlynedd ac mae ar fin ymddeol.

Hefyd, mae Ffion yn cael cwmni Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru ac yn cyhoeddi pwy fydd beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2025 yn ogystal â chyhoeddi’r amserlen o hyn i’r seremoni yn ystod yr haf.

Bydd Ffion hefyd yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol yng nghwmni’r awdur Bethan Gwanas 100 mlynedd ers cyhoeddi y llyfr ffug wyddonol cyntaf i blant sef, ‘Rhys Llwyd y Lleuad’ gan Tegla Davies.

Ac yna yn olaf, fe fydd Ffion yn trafod cyfrol newydd sbon, ‘Fel yr Wyt’, sydd yn cael ei lansio ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched er mwyn helpu menywod i deimlo yn fodlon gyda’u cyrff.

29 o ddyddiau ar ôl i wrando

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Ddoe 14:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Buddug

    Unfan

    • Recordiau Côsh.
  • Adwaith

    Tristwch

    • Solas.
    • Libertino.
    • 3.

Darllediad

  • Ddoe 14:00