Main content

Byw heb Ddŵr: Darganfod dŵr trwy ddefnyddio technoleg hynafol

Yn Algeria mae cymunedau cyfan yn gallu byw yn y diffeithdir erbyn hyn oherwydd bod y bobl yn mabwysiadu dulliau hynafol i ddod o hyd i ddŵr o dan y ddaear a’i sianelu yn ôl i’r dref.

Mae Kerzaz yn dref gwerddon sy’n ddwfn yn y diffeithdir ac sy’n dibynnu ar y cyflenwad yma o ddŵr daear – dŵr sydd wedi’i ddal yn y graig o dan y diffeithdir. Yn sgil y dŵr daear, gall anifeiliaid a phobl oroesi yn y fath amgylchedd sych.

O'r gyfres Human Planet darlledwyd gyntaf ar 20 Ionawr 2011 ac ail-leiswyd i'r Gymraeg.

Release date:

Duration:

6 minutes