Main content

Dinasoedd Cynaliadwy: Dinasoedd ar orlifdiroedd

Afon Rideau yw un o brif ddyfrffyrdd Ottawa yng Nghanada. Mae’n ymdroelli trwy’r ddinas ond yn y gaeaf bydd yn rhewi’n gorn. Mae pont droed isel yn croesi’r afon ond mae llif uchel y gaeaf wedi ffurfio rhaeadr dros y bont a hwnnw wedi rhewi gan greu wal solid o rew.

Mae’r rhew yn gweithredu fel argae naturiol, gan achosi i lefel yr afon godi a bygwth gorlifo i gartrefi a busnesau cyfagos. Rhaid wrth gynllun dyfeisgar i ddinistrio’r argae naturiol yma – ffrwydron!

O'r gyfres Human Planet darlledwyd gyntaf ar 20 Ionawr 2011 ac ail-leiswyd i'r Gymraeg.

Release date:

Duration:

5 minutes