Main content

Coedwigoedd Cynaliadwy: Byw'n gynaliadwy

Un o daleithiau Indonesia yw Gorllewin Papua. Mae llwyth y Korowai yn byw yno mewn man anghysbell lle mae hi bob amser yn boeth a llaith. Maen nhw wedi ymaddasu’n berffaith i’w hamgylchedd, gan ddewis adeiladu eu tai yn uchel yng nghanopi’r jyngl.

Mae’r llwyth yn bobl hynod ddyfeisgar, gyda’r defnyddiau a ddewisir i adeiladu pob tŷ coeden i gyd i’w cael wrth law yn y jyngl. Mae pensaernïaeth anhygoel y tai hyn yn dystiolaeth berffaith o wybodaeth, dyfeisgarwch a sgiliau’r Korowai – a’u gallu rhyfeddol i ymaddasu i amgylchedd anodd y jyngl.

O'r gyfres Human Planet darlledwyd gyntaf ar 03 Chwefror 2011 ac ail-leiswyd i'r Gymraeg.

Release date:

Duration:

6 minutes