![](https://ichef.bbci.co.uk/images/ic/640x360/p02cb1qc.jpg)
Byw heb Ddŵr: Darganfod dŵr drwy ddefnyddio sgiliau hynafol
Teithwyr y diffeithdir ydy pobl y Tubu. Bob blwyddyn bydd menywod y Tubu yn ymdopi â’r tirwedd cras, gan groesi’r diffeithdir sawl tro gyda’u camelod. Maen nhw’n teithio cannoedd o gilometrau ar draws y diffeithdir i gyrraedd trefi bach lle mae marchnadoedd a phrynwyr i’w nwyddau. Er mwyn gallu goroesi am gyfnodau maith yn y diffeithdir, rhaid i fenywod y Tubu ddod o hyd i ddŵr.
Mae Foni a’i merch 10 oed Shede yn chwilio am ffynnon ddŵr yng nghanol y diffeithdir, a dim ond un metr sgwâr yw ei maint. Heb fap na chwmpawd, gall Foni lywio ei llwybr trwy’r diffeithdir – sgil a ddysgodd oddi wrth ei hynafiaid.
Gall menywod y Tubu ddilyn copaon y twyni tywod i’w helpu i benderfynu ym mha gyfeiriad i deithio.
O'r gyfres Human Planet darlledwyd gyntaf ar 20 Ionawr 2011 ac ail-leiswyd i'r Gymraeg.
Duration:
This clip is from
More clips from Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00