Gwenllian Beynon - Coch
Artist o Bontrhydfendigaid yw Gwenllian Beynon. Mae ei stori'n un sydd yn parhau'r traddodiad llafar am rannu straeon yr hen deulu. Y flanced goch o'r Forge Ffatri, Llandyfan, yw brif gymeriad y stori a thrwy'r flanced mae'n adrodd hanes hynaf y teulu.
'Dafydd, Dafydd dere 'ma, edrych beth sy yn cwpwrdd ar 'landing' mam-gu yn Rhydaman - Blanced goch!'
Artist o Bontrhydfendigaid yw Gwenllian Beynon. Mae ei stori'n un sydd yn parhau'r traddodiad llafar o rannu straeon am yr hen deulu. Y flanced goch o'r Forge Ffatri, Llandyfan, yw brif gymeriad y stori a thrwy'r flanced mae'n adrodd hanes hynaf y teulu am un o'i chyn-deidiau William Lewis a gafodd ei eni yn 1797 ac a sefydlodd y Ffatri. Daw'r flanced goch yn symbol deimladwy o bwysigrwydd achau a pherthyn.
Cefndir gan Gwenllian Beynon:
Er bod yr hen flanced goch yn cael ei gadw'n ddiogel yng nghwpwrdd Mamgu, mae'n dod lawr ar gyfer un ymddangosiad pwysig.
Fi'n hoffi'r lliw coch. Fi'n hoffi hen bethau. Mae hanes teulu ni yn ran o'r flanced 'ma.
Blanced o Forge ffactri yn Llandyfan, a'n hen, hen, hen, hen, dad-cu 'nath sefydlu'r ffactri wl? 'Na ti foi oedd William Lewis.
O'dd e' arfer gwneud blancedi gwyn a llwyd, ond benderfynodd bod ishe lliwiau mwy diddorol arno fe. Clywodd am y ferch 'ma yn sir Benfro, oedd yn meddu ar gasgliad ryseitiau lliwur (dye); Mary oedd ei henw hi. Nid yn unig gafodd e liwur coch ar gyfer gwneud blancedi ganddi, fe benderfynodd ei phriodi hefyd, a chafodd y ddau naw o blant, dychmyga!
Dwi'n credu y gwnaeth Mary roi lliw i'w fywyd ym mhob ffordd. Ma'r flanced goch yn rhan o hanes dy deulu di Dafydd ac fel dy Fam dwi eisie i ti fod yn falch o hynny.
Ar y funed ti rhy fach i sylweddoli pwysigrwydd y flanced. Ond am nawr, dere 'ma Dafydd. Dere i ddal y 'ladder' i fi cael rhoi'r flanced nol yng nghwpwrdd mam-gu, yn saff unwaith eto.
Mwy am Gwenllian:
Rwy'n artist, darlithwraig, arweinydd gweithdai, gweithio'n greadigol ym myd y theatr ac yn fam. Cefais fy ngeni yn Rhydaman ac ar ?yfnod fel Nyrs Yng Nghaerdydd yn y 1980au ac yna teithio tamaid bach ?yd mawr yma, dechreuais ar fy ngyrfa fel artist.
Cefais fy addysg yng Nghaerfyrddin, Caerdydd ac yna yn Wimbledon, Llundain. Rwyf yn darlithio yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin ac yng Ngholeg Ceredigion Aberystwyth. Ac rwy'n byw ac yn gweithio ar liwt fy hunan ym Mhontrhydfendigaid ac y falch iawn o fod mewn ardal wledig Gymreig.
Mae'r stori yn un sydd yn parhau'r traddodiad llafar o fewn ein teulu ni yn s?'m yr hen deulu. Y flanced goch o'r Forge Ffactri, Llandyfan, yw brif gymeriad y stori a thrwy'r flanced rwyf yn adrodd yr hanes hynaf sydd wedi dod lawr ataf i drwy Mam am William Lewis a gafodd ei eni yn 1797.
Wrth wylio teledu a'r rhaglenni hel achau sylweddolais fod rhywbeth arbennig gennym ni fel teulu ein bod ni yn cofio ein hachau, ac rwy'n meddwl ei fod yn bwysig parhau'r traddodiad yma i'r genhedlaeth nesa. Felly dyma atgofion ein teulu ni i fy mab, gan barhau'r traddodiad llafar sydd gyda ni.
Roedd yn anodd canolbwyntio ar un rhan o'r stori deuluol, ond gan fy mod yn artist ac yn hoff iawn o liwiau, coch a melyn yn arbennig, dewisais y flanced goch a'r atgofion yma sydd ar gof a chadw fy mam gyda help ffantastig y broses cylch stori yn y gweithdy.
I fi'n bersonol roedd y profiad yn un eang iawn. Yn greadigol, trwy ysgrifennu a chreu delweddau gyda geiriau, roedd hwn yn brofiad arbennig iawn i fi. Yn emosiynol ac ar lefel bersonol, wrth gofio fy achau, cyffwrdd yn y flanced goch am y tro cyntaf yn y gweithdy, a hefyd wrth feddwl ymlaen i'r dyfodol. Roedd gwrando ar straeon a phrofiadau eraill yn y gweithdy yn emosiynol hefyd. Yn gymdeithasol, dysgais lawr am ardal Llambed nad oeddwn yn gwybod amdano o'r blaen ac fe wnes i ddod i adnabod pobl ffantastig o'r ardal, a'r prosiect.
Yn addysgol, dysgais sut oedd crynhoi geiriau a sut oedd galluogi'r geiriau cryno i adrodd fy stori yn gyflawn. Roedd hyn yn broses hynod o anhygoel i fi ac wrth gwrs, fel artist rwyf yn gwneud hyn yn weledol trwy'r amser. Rwy'n ddiolchgar iawn i 'Cipolwg ar Gymru' am gael y profiad yma.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren W卯b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from 麻豆官网首页入口 Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—麻豆官网首页入口 Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00