Main content

Cacen Siocled Cecile Roberts o Ffrainc.

Cacen Ffrengig ‘Buche de Noel’

4 wy.
140g Siwgr.
100g Blawd Codi.
250g Siocled.
200g Menyn.
Troi y popty ymlaen i 180 Celsius.
Cymysgwch y 4 melynwy gyda’r siwgr, a thair llond llwy fwrdd o ddwr cynnes.
Ychwanegwch y blawd.
Cymyswch yn dda, ac ychwanegu’r 4 gwynwy – cofiwch gymysgu’r gwynwy gyntaf – nes ei fod yn sefyll.
Rhowch y gymysgedd mewn desgl hir a’i goginio am 25 munud.
Yna, wedi’r i’r gacen goginio, rhowch hi ar dywel tamp, ei rholio, a’i gadael i oeri.
Yna torrwch y siocled – a’i doddi – yna ychwanegu’r menyn – dylai’r menyn fod yn feddal.
Gwasgrwch y siocLed ar y gacen, a’i rholio eto.
Addurnwch y gacen fel y mynnwch.
Rhowch chi yn yr oergell, ac ar ôl ‘chydig o oriau mi fydd yn barod i’w bwyta.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau

Daw'r clip hwn o