Main content

Frank Letch - Delfryd Ymddwyn

Sgwrs gyda Frank Letch sy'n egluro sut mae'r elusen ‘Reach’ yn rhoi hyder i blant ag anableddau. Gwelwn Frank yn croesawu teulu o Iwerddon i’w gartref. Mae ganddyn nhw fab, Theo, a gafodd ei eni heb freichiau, fel Frank ei hun. Roedden nhw wedi cysylltu â Frank drwy Reach. Eglura tad Theo fod cyfarfod Frank wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’w bywydau. I gloi, gwelwn Frank yn meddwl yn ôl am ei fywyd, ac yn datgan ei fod wedi darganfod paradwys a heddwch yn ei fywyd unwaith eto. O'r gyfres 'O'r Galon' a ddarlledwyd gyntaf ar S4C ar 12 Ionawr 2010.

Release date:

Duration:

5 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu