Main content

Galaru

Mam Bethan a Chris yn disgrifio sut beth yw galar.

Ceir cyfweliad 芒 rhieni Bethan, a chyfweliad byr 芒 Chris, cymar Alex. MAM BETHAN - tra roedd hi'n cael ei chwnsela, roedd yn teimlo ei bod yn dod yn ei blaen yn dda iawn. Ond wedyn rhyw flwyddyn neu ddwy ar 么l colli Bethan, buodd adref o'r gwaith am chwe mis gydag iselder. Roedd fel petai rywbeth wedi ei 'hitio ar dop ei phen, yn galed iawn.' Dyna pryd y sylweddolodd faint o glec roedd colli Bethan wedi bod mewn gwirionedd. Wrth drefnu'r angladd, roedd hi wedi gofyn i Carys, chwaer Bethan, beth oedd hoff gan Bethan. Awgrymodd Carys y g芒n 'Hawl i Fyw', gan ei bod wedi gwneud t芒p o'r g芒n ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Felly, hwn gafodd ei chwarae wrth i Bethan gael ei chario allan o'r angladd. Mae ei Mam yn dweud ei bod fel petai'n medru clywed ei llais yn y g芒n. CHRIS - mae pobl yn dweud wrtho o hyd mai amser sydd ei angen. Ond nid yw Chris yn credu bod amser yn gwella bob clwyf, mae angen gweithio arno i'w wella. Dywedodd ei fod fel torri braich - mae'n waith caled trin y clwyf. Cyfres ' O'r Galon' a ddarlledwyd gyntaf ar S4C ar 7 Ebrill 2007

Release date:

Duration:

2 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu