Main content

Cychwyn y Cwrs

Martin yn siarad am ba mor anodd bydd y cwrs iddo fe.

Mae Martin yn cychwyn y cwrs (Rhaglen McGuire) ac fe'i dilynwn yn ystod deuddydd cyntaf y cwrs. Gwelwn Martin yn cerdded ar y stryd ac yna yn ei ystafell wely mewn gwesty. Mae鈥檔 dweud ei bod hi'n mynd i fod yn wythnos anodd, ddidrugaredd. Gwelwn gyflwyniad Alan Jones i鈥檙 cwrs a chlipiau o'r diwrnod cyntaf. Mae Martin yn dweud ei enw ac Alan yn dysgu Martin sut i anadlu. Ceir cyfweliad gydag Alan Jones sydd wedi dilyn y cwrs ei hun, ac mae e'n dweud bod y rhaglen wedi gweithio iddo. Diwrnod dau - heddiw maen nhw'n dysgu sut i anadlu. Mae'r cwrs yn bodoli ers 1994. Cafodd ei gynnal yn gyntaf gan Dave McGuire yn yr Iseldiroedd. Erbyn hyn, mae'n cael ei gynnal yn rhyngwladol. Yn 么l Alan nid yw'r rhaglen yn gweithio i bawb, ond gwelwn yn barod ei bod yn cychwyn gweithio i Martin. Mae Alan yn dweud bod a wnelo'r dull 芒 chyswllt llygad ac anadlu. Mae hefyd yn dweud ei fod yn rhywbeth seicolegol sy'n effeithio ar y diaffram. Cyfres ' O'r Galon' a ddarlledwyd gyntaf ar S4C ar 17 Mawrth 2007

Release date:

Duration:

6 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu