Main content

Marwolaeth

Teuluoedd Alex, Bethan a Heledd yn disgrifio sut y bu'r tri farw.

Tri chyfweliad sy’n canolbwyntio ar farwolaeth a galar. TAD A MAM HELEDD – Nid oedd Heledd wedi bod yn achwyn rhyw lawer, ond pan aeth hi i mewn i gael llawdriniaeth, fe ganfuwyd bod canser arni. Ar yr 2il o Ragfyr cafodd lawdriniaeth arall, ac yna daliodd MRSA. ‘Doedd dim gobaith iddi wedyn’. Ar y diwrnod y bu farw, mae ei rhieni’n cofio ei bod wedi mynd yn anymwybodol am 4.15yp, ac yna bod ei hanadl yn mynd yn llai a llai o hyd. CHRIS (cymar Alex a fu farw) - Roedden nhw ar eu gwyliau blynyddol ym mis Awst yn Bali, Indonesia. Y diwrnod hwnnw, roedden nhw wedi codi i fynd i'r traeth. Aeth Alex i'r môr. Roedd e'n chwarae yn y dŵr pan ddilynodd Chris ef. Roedd Chris wedi neidio i mewn ond cafodd ei ddal mewn rip tide ac roedd yn boddi. Ar y cychwyn, roedd Alex yn meddwl ei fod e’n ffugio. Yn sydyn, roedd y ddau'n boddi. Mae Chris wedyn yn cofio bod rhywun wedi'i helpu allan o'r dŵr a'i fod wedi gorwedd ar y traeth yn anymwybodol am sbel, cyn cychwyn chwydu dŵr môr. Mae e'n cofio wedyn gweld pobl yn cario Alex i'r traeth, ond roedd e wedi marw.TAD A MAM BETHAN - Cafodd Bethan ei ffit gyntaf ar ddydd San Ffolant, 1995. Y noson cyn i Bethan farw, roedd wedi mynd i aros â'i thad-cu. Dywedodd y meddyg bod y ffit yn un mewn miliwn. Roedd hi wedi bod yn gweiddi, 'Nos dawch, lyf iw'. Roedden nhw wedi bod yn gweiddi arni i fynd i'w gwely, heb unrhyw syniad beth oedd ar fin digwydd. Roedd ei thad yn ei waith pan ddaeth y rheolwr ato tua 2.45 y prynhawn i ddweud bod angen iddo fynd adref gan fod ei ferch wedi cael ffit. Yn y tŷ, roedd Bethan ar y llawr a'r parafeddygon wrth ei hochr. Roedden nhw'n defnyddio'r 'offer sioc' i geisio ailgychwyn ei chalon, ac wrth iddo edrych ar y parafeddyg a'i weld yn ysgwyd ei ben, roedd e'n gwybod bod Bethan wedi marw. Cyfres ' O'r Galon' a ddarlledwyd gyntaf ar S4C ar 7 Ebrill 2007

Release date:

Duration:

5 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu