Main content

Meinir

Mae canser ar Meinir ac erbyn hyn mae hi'n un o’r cleifion yn yr hosbis. Ers i Meinir Evans dderbyn y newyddion chwe mis yn ôl bod canser arni, bu'n bur wael. Meinir yw un o gleifion ieuengaf yr hosbis – mae hi'n 45 oed ac yn fam i dri o fechgyn. Mae ganddi fath prin a ffyrnig iawn o ganser, sef canser genynnol y fron. Cafodd sgan CT ar y corff a ddangosodd fod y canser wedi mynd i’r esgyrn a’r ysgyfaint. Cafodd gemotherapi ac roedd hwnnw'n anodd iawn. Roedd hi'n meddwl y buasai'n iawn ar ôl y driniaeth cemo, ond cafodd sioc. Gwelwn Manon Jones yn siarad am y cleient a'i theulu, a'u ffyrdd nhw o ymdopi. Mae ganddi gylch da o bobl sy'n gofalu amdani, gan gynnwys yr hosbis. Yn ôl Meinir, ni all roi gorau iddi - allai hi byth ddibynnu ar beth mae’r doctoriaid yn ei ddweud yn unig. Mae hi’n cymryd yr awenau yn ei dwylo hi ei hun nawr, ac yn brwydro ymlaen. O 'O Flaen dy Lygaid' a ddarlledwyd ar 12 Mehefin 2007

Release date:

Duration:

2 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu