Main content

Teulu Meinir

Gwelwn fam Meinir yn ymweld 芒 hi yn yr hosbis. Ceir cyfweliad gyda Gwen, modryb Meinir, a gwelwn glipiau o Meinir gyda'i mam a'i modryb. Mae modryb Meinir yn s么n am y sioc gafodd y teulu o glywed am ganser Meinir. Doedden nhw ddim yn credu'r peth gan fod Meinir yn berson mor gryf. Dweda ei modryb fod Meinir wedi bod yn s芒l ofnadwy, ond ei bod yn brwydro'n galed bob cam o'r daith. Teimla ei modryb ym m锚r ei hesgyrn bod Meinir yn mynd i oresgyn y salwch, ac mae hi wedi'i rhyfeddu ei bod hi wedi dod drwy'r hyn y daeth hi drwyddo鈥檔 barod ac yn dal i frwydro鈥檔 galed. Mae Meinir yn dweud ei bod yn well nag oedd hi. Roedd hi鈥檔 ei chael yn anodd ysgrifennu tua mis yn 么l, ond mae hi鈥檔 well erbyn hyn. O 'O Flaen dy Lygaid' a ddarlledwyd ar 12 Mehefin 2007

Release date:

Duration:

2 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu