Main content

Meinir yn Bositif

Mae natur salwch Meinir yn golygu ei bod hi i mewn ac allan o'r hosbis. Penderfynodd fynd ar wyliau gyda'r teulu, ond cafodd ei tharo'n wael ar y ffordd a bu'n rhaid iddi gael ambiwlans awyr i ddod i'w n么l hi. Mae Manon yn trafod y ffaith bod canser Meinir yn yr ymennydd bellach, sy'n golygu ei bod yn cael ffitiau. Ond er hyn, fe wellodd ac fe fedrodd fynd i ffwrdd am benwythnos gyda Gwyndaf a'i meibion. 'Roedd pob dim yn berffaith' meddai Meinir. Mae Manon yn dweud bod Meinir yn bositif iawn ond hefyd yn realistig iawn. Mae Meinir wedi gweld ei bod yn cael budd mawr o fod yn yr hosbis. Mae Meinir yn teimlo ei bod wedi troi cornel ers bod yn yr hosbis. O 'O Flaen dy Lygaid' a ddarlledwyd ar 12 Mehefin 2007

Release date:

Duration:

2 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu