Main content

Meinir Adre am Sbel

Dangosir cartref Meinir ym Mhentrefoelas. Mae Meinir adref am gyfnod byr. Dweda hi ei bod hi'n ceisio gwneud bywyd mor rhwydd ag sy'n bosib iddi tra mae hi yno. Ond mae hi'n falch o fod adref ac yn teimlo'n fwy positif. Gwelwn Meinir wrthi'n paratoi bwyd. Mae hi'n s么n am ei meddyginiaeth amgen a'i bod wedi gweithio i gleifion eraill. Mae鈥檔 cymryd 32 sg诺p o'r moddion bob dydd. Felly mae Meinir yn rhoi cynnig ar y feddyginiaeth hon hefyd. Dweda Meinir ei bod yn braf iawn cael bod adref. Mae hi'n teimlo lawer yn gryfach nawr. Ar ddiwedd y clip, gwelwn y teulu cyfan, Meinir, ei g诺r, ei phlant a'i mam, yn eistedd wrth y bwrdd adref yn bwyta pryd o fwyd. O 'O Flaen dy Lygaid' a ddarlledwyd ar 12 Mehefin 2007

Release date:

Duration:

1 minute

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu