Main content

Martin

Ceir cyfweliad gyda Martin y diwrnod cyn y cwrs, lle mae'n dweud ei fod am gael gwared ar yr atal a rhoi'r gorau i ysmygu. Mae’n debyg fod pawb yn yr ardal yn ei alw'n 'Martin Bwp, Bwp.' Mae'n sôn am ei deulu, ei waith a'i JCBs. Mae'n dweud nad oedd neb arall yn yr ysgol ag atal - fe oedd yr unig un ac roedd hynny'n anodd iddo. Roedd e'n cael ei farnu fel petai'n 'anabl neu'n disabled.' Roedd y plant i gyd yn gwneud sbort am ei ben. Yr unig ffordd o ymdopi â'r bwlio felly oedd ymladd yn ôl Nid yw Martin eisiau byw gyda’r atal dweud ddim rhagor ac meddai, ‘S'dim dewis 'da fi, mae'n rhaid i fi fynd’. Gwelwn ddelwedd o Martin gyda'i ffrindiau yn y dafarn, a phob un ohonyn nhw'n dymuno'n dda iddo.Cyfres ' O'r Galon' a ddarlledwyd gyntaf ar S4C ar 17 Mawrth 2007

Release date:

Duration:

5 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu