Main content

Pennill Ysgafn: Wrth y Bwrdd.

Roedd fy nghinio yn gampwaith artistig-
Moronen, UN daten myn brain!
A thafell o gig-papur-sidan
Mewn cyrlen o grefi mor gain,
Pum pysen a sbrigyn o frocli;
Ond ‘rôl ca’l y bil ‘ma dwi’n flin,
Efo waled cyn waced â’m stumog
Naw wfft i ryw ffansi ‘cuisine’!

Gwen Edwards

8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

33 eiliad

Daw'r clip hwn o