Main content

Pennill Ysgafn: Wrth y Bwrdd.

Mae trwyn y gŵr mewn papur
yn darllen am y byd;
y mab â’i fysedd chwimwth
yn chwarae gemau hud;
y ferch mewn sgwrs ar Facebook
heb glywed yr un gair;
a’r bychan gyda’i Dabled
am Cyw, yn ddim ond tair...
led braich oddi wrth ein gilydd
yn deulu bach cytûn,
ond pawb yn rhywle arall
a finna’ ar ’mhen fy hun.

Gwenan Prysor

8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

34 eiliad

Daw'r clip hwn o