Main content

C芒n Ysgafn: Y Rhagbrawf.

C芒n Ysgafn: Y Rhagbrawf.

Miss Morris oedd merch y melinydd, wedi鈥檌 magu ar nodau cerdd dant,
A phrifwyl yr Urdd ym Meirionnydd, fe fynnai gael parti o blant.

Roedd Miss Dorris Morris o Gorris wedi ceisio croesbeillio ei hun
Efo un neu ddau o 诺yr Harlech, a wedyn llanc ifanc o L欧n.

Miss Morris gadd syniad un bore, 鈥淢i groesbeilliaf fy hun efo bardd
Yn y gobaith o esgor ar hybrids, barddonol, cynhyrchiol a hardd.鈥

Gwenynen o Went gasglodd neithdar o flodau ar gangen Llwyn Onn,
Ond mae s么n fod cainc Dafydd Broffwyd hefyd braidd yn agos i鈥檞 bron.

Yn gyfrin beichiogodd Miss Morris, y gog lwydlas a ganai鈥檔 y llwyn,
Pan deimlodd hi fardd yn ei awen ar gyrion Pant Corlan yr 糯yn.

Yn wyrthiol cyrhaeddodd dau hybrid, daeth Borris a Norris i鈥檙 byd,
Y ddau dorrai wynt ar donic sol-ffa, a llunio cynghanedd 鈥榬un pryd.

A Phrifwyl yr Urdd ddaeth i Gorris, y digwyddiad pwysicaf 鈥榥y plwy鈥
A Borris a Norris yn ysu, i gystadlu fel hybrids dan ddwy.

Wedi cropian i gefn y Pafiliwn, fe daflwyd d诺r oer ar eu dawn,
Gwrthodwyd i鈥檙 ddau fach gystadlu, roedd y rhagbrawf 鈥榙i bod yn y pnawn!

Yn waddol, mae gwers fach i鈥檞 dysgu, a鈥檌 chofio鈥檔 feunyddiol a wnawn
Ofer croesbeillio 芒 beirdd yn yr hwyr, os yw鈥檙 rhagbrawf i fod yn y pnawn.

Aled Jones

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o