Main content

Martin a Fi

Monica wedi disgyn dros ei phen a’i chlustiau am Martin. Wrth adael y neuadd chwaraeon,mae'r ffrindiau'n sylwi ar Martin yn cusanu Gilberto.Mae breuddwyd Monica yn deilchion.

Mae Monica (11) wedi disgyn dros ei phen a’i chlustiau am Martin, sy’n gweithio yn ffreutur yr ysgol. Mae e’n rhoi blodau ar ei bwrdd hi (a bwrdd pawb arall) ac mae e bob amser yn llawn sgwrs ac yn barod i helpu. Mae Monica druan yn camddarllen ei ymddygiad fel arwydd o’i gariad tuag ati. Mae hi mor hyderus ei fod e’n ei hoffi hi, nes ei bod yn penderfynu dweud wrtho’n union sut mae hi’n teimlo, er mawr dychryn i’w ffrindiau. Yn y cyfamser, mae Tony (13) yn bryderus ei fod yn edrych yn ‘rhy ifanc’ ac yn penderfynu mynd i’r gampfa i gryfhau ei gyhyrau. Sonia Martin ei fod yn hyfforddi tîm pêl-fasged yr ysgol ac awgryma fod Tony yn ymuno â'r tîm, sy’n ffordd llawer mwy iach o ymarfer. Tra mae'r bechgyn yn chwarae pêl-fasged, mae Monica yn anfon neges destun at ei mam, yn dweud popeth wrthi am ei 'chariad' newydd. Mae Lara (12) ac Akira (12) yn poeni ei bod yn mynd i gael ei brifo ac yn ceisio ei pherswadio i beidio â chyfaddef wrth Martin sut mae'n teimlo. Wrth adael y neuadd chwaraeon, mae'r ffrindiau'n sylwi ar Martin gyda'i ffrind Gilberto - maen nhw'n cusanu. Dydy Gabriel, Tony a Lara ddim yn gallu credu ei fod yn hoyw. Mae breuddwyd Monica yn deilchion ac mae hi'n beichio crïo yn y tai bach. Mae hi'n teimlo wedi drysu a'i bod wedi cael ei gwrthod ac yn beio Martin am y camddealltwriaeth. Mae Akira a Lara yn gwrando ar eu ffrind ac yn ei helpu i deimlo'n well. Ond mae Tony wedi drysu hefyd. Mae Martin yn hoffi comics a phêl-fasged a dydy e ddim yn edrych yn hoyw. Beth os bydd pobl yn meddwl ei fod e'n hoyw am ei fod e'n chwarae ar ei dîm? Mae Llion (13) a Gabriel (13) yn dweud wrtho mai lol ydy hynny a bod siarad fel 'na'n gwneud iddo swnio'n homoffobig. Sylweddola Tony ei gamgymeriad ac mae ganddo gywilydd o'i ragdybiaethau. Yn steil arferol Monica, mae hi wedi 'dod dros' Martin mor gyflym ag y disgynnodd 'mewn cariad' gydag ef, ac mae hi'n penderfynu ymuno â chlwb arall er mwyn cyfarfod bechgyn newydd!

Release date:

Duration:

13 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu