BERWYN: Cân ysgafn 'Y Labordy'
I labordy ar lethrau yr Aran
Aiff nifer o bobl llawn ffydd,
I geisio cael dianc o’r twpdra
A dod o’u hanwybod yn rhydd.
Nid oedd Wayne o ardal Maenceinion
Y seren ddisgleiria yn bod
Ac felly fe aeth am y driniaeth
IQ o dri deg oedd ei nôd.
Rôl cael ei werthuso a’i wirio
A styried be wnai iddo fo,
A phwyso a mesur y costau
Dim ond dau ymennydd wnai’r tro.
Roedd un yn eiddo i gyn – athro
A’i bris yn rhyw dair punt ar ddeg,
A’r llall i gyn Wnidog dros Addysg
A miliwn yn bris digon teg.
‘Ond pam y gwahaniaeth mewn costau’
Medd Wayne rôl pendroni’n hir,
‘Un yr athro sy di ddefnyddio
A’r llall ? - Wel fel newydd yn wir !!
8.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 13/04/2014 - Tywysogion v Ysgol y Berwyn
-
YSGOL Y BERWYN: Englyn 'Brwydr'
Hyd: 00:10
-
TYWYSOGION: Englyn 'Brwydr'
Hyd: 00:10
-
TYWYSOGION: Soned neu delyneg ' Cornel'
Hyd: 00:47