Main content

Porth yr Aur, Caernarfon: Lionel Rees, "dyn dewraf y byd"

Lionel Rees oedd peilot awyren arfog cynta鈥 Prydain ac arwr awyr cynta鈥 Cymru.

Dyma stori g诺r a ddisgrifiwyd fel 鈥渄yn dewraf y byd鈥. Lionel Rees oedd peilot awyren arfog cynta鈥 Prydain ac arwr awyr cynta鈥 Cymru.

Roedd yn un o sylfaenwyr Llu Awyr yr Unol Daleithau ac yn arloeswr ym maes gwyddor archeoleg awyr.

Roedd yn un o feibion balch tre鈥 Caernarfon a hyd heddiw, fe yw鈥檙 unig un i gael Croes Fictoria - y VC - o鈥檙 dre honno.

Ei enw llawn oedd Lionel Wilmot Brabazon Rees ac roedd yn fab Plas Llanwnda ar Stryd y Castell.

Mae鈥檔 cael ei gydnabod hefyd taw Rees oedd y g诺r cynta鈥 i saethu awyren i鈥檙 ddaear yn hanes hedfan. Ymhen amser fe ysgrifennodd y llawlyfr cynta鈥 ar sut i fod yn beilot rhyfel, 鈥淔ighting in the Air鈥. G诺r o鈥檙 enw James Mckinley Hargreves, Albanwr o Glasgow, oedd ar wn yr awyren.

Yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf fe dreuliodd Rees lawer o鈥檌 amser yn y Dwyrain Canol gan ymroi i un o鈥檌 brif ddiddordebau, archeoleg yr Hen Destament, cyn dod n么l i Gaernarfon.

Yna yn 1933 fe benderfynodd fentro ar antur doedd neb wedi bod arni o鈥檙 blaen, sef hwylio o Borth yr Aur, Caernarfon, i鈥檙 Bahamas.

Ar y 12fed o Awst 1947, fe briododd 芒 gwraig leol, Sylvia Williams. Fe fagodd y ddau dri o blant cyn i Rees gael ei daro yn s芒l 芒 liwcemia. Bu farw yn 71 mlwydd oed yn 1955. Mae wedi ei gladdu ym mynwent ryfel Nassau.

Lleoliad: Porth yr Aur, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SN
Llun: Uwchgapten Lionel WiImot Brabazon Rees yn 1917 ar 么l cael y VC a'r MC drwy ganiat芒d a charedigrwydd Alister Williams, awdur 鈥淎gainst the Odds鈥.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

5 o funudau