Main content

Caergybi, M么n: Hanes cipio'r morwr Gwilym Roberts yn garcharor rhyfel

Cafodd y morwr Gwilym Roberts o Gaergybi ei ddal yn garcharor yn yr Almaen drwy'r Rhyfel.

Dyma hanes Gwilym Gabriel Roberts o Gaergybi a gipiwyd yn garcharor rhyfel fis Hydref 1914, ac a fu鈥檔 garcharor drwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd Gwilym Roberts yn ail swyddog ar long y 鈥淐ity of Cadiz鈥 a hwyliodd o Abertawe i Hamburg, gan gyrraedd y porthladd Almaenig ar Awst 2, 1914. Ond yn dilyn cyhoeddi'r Rhyfel, carcharwyd criw y llong a鈥檜 cludo i wersyll Ruhleben, tua chwe milltir i鈥檙 gorllewin o Berlin.

Bu鈥檔 garcharor drwy gyfnod y rhyfel i gyd, a cheir adroddiad yn ei eiriau ei hun o鈥檌 brofiadau ym Mhorthladd Hamburg ac yn y gwersyll yn Ruhleben. Gwersyll i hyd at 5,000 o sifiliaid oedd Ruhleben ac roedd morwyr eraill o F么n yno hefyd gan gynnwys Capten Rowland Humphreys o Borth Amlwch, y prif beiriannydd John Michael o Laneilian ac R Hughes, cogydd o Amlwch.

Roedd wedi ei fagu yn Leicester House ar Stryd y Farchnad yng Nghaergybi ac roedd ei daid yn gapten llong. Aled L Jones sydd 芒'r hanes.

Lleoliad: Leicester House, 73 Stryd y Farchnad, Caergybi, LL65 1UW.
Llun: Lluniau o Gwilym Roberts (ar y m么r ac yn 1919) drwy garedigrwydd Aled L Jones. Yn y gornel dde uchaf mae llun o'i gartref Leicester House yng Nghaergybi.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau