Main content

Eglwys Llanwenog, Ceredigion: Cerfluniau pren gan ffoadur rhyfel

Yn Eglwys Llanwenog ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion mae gwaith pren cywrain wedi ei gerflunio gan Joseph Rubens, dyn oedd wedi ffoi o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd Rubens loches gan berchennog st芒d Highmead ger Llanybydder, Major Herbert Davies-Evans yn ystod y Rhyfel Mawr.

Tra yno, gweithiodd ar y cyd gyda Herbert Davies-Evans i gerfio croglen ('rood screen'), pulpud, pen corau ('pew ends') ac areithfa yn yr Eglwys.

Yn ogystal, fe gerfiodd le t芒n godidog yn yr ysgol i goff谩u鈥檙 bechgyn a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel.

Mae Mrs Mary Thomas, aelod ac organyddes yn yr eglwys yn disgrifio鈥檙 gwaith pren hardd sydd yno, ac mae鈥檙 Parchedig Suzy Bale, Ficer Llanwenog, yn disgrifio鈥檙 groglen.

Lleoliad: Eglwys ac Ysgol Llanwenog, Llanybydder, Ceredigion, SA40 9UU

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau