Main content

Cribyn, Llanbedr Pont Steffan: Fel gwylan i Frongelyn

Rhoddodd y peilot Simon Jones 'syrpreis' i'w deulu pan ddaeth adref yn ei awyren

Fe ddaeth Capten Simon Jones, mab fferm Frongelyn ger Llanbed, adref at ei deulu yn ei awyren yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn rhoi syrpreis i鈥檞 ffrindiau a phobl y pentref, ar 么l cyfnod fel peilot yn Ffrainc a鈥檙 Almaen.

Dros un penwythnos fe gasglodd miloedd o bobl y fro i weld yr awyren 鈥淔okker鈥 oedd wedi ei chipio oddi ar yr Almaenwyr.

Yn y clip yma mae Trystan ab Ifan yn olrhain hanes y g诺r hynod yma o Geredigion oedd a鈥檌 fryd ar fod yn beilot yn y Rhyfel Mawr.

Cychwynnodd ei ddiddordeb mewn awyrennau drwy ryfeddu ar sut roedd yr adar yn medru hedfan mor ddidrafferth, cyn gweld peilot yn hedfan am y tro cyntaf uwchben dinas Caerdydd a glanio ar gaeau Llandaf.

Roedd yn un o aelodau gwreiddiol yr RAF yn ogystal 芒 bod yn beilot a oroesodd y rhyfel pan ar un adeg doedd dim disgwyl i beilot fyw yn hirach na pythefnos.

Un penwythnos fe benderfynodd Capten Simon Jones ddychwelyd n么l i fferm y teulu yn Frongelyn, Cribyn ger Llanbedr Pont Steffan, gyda鈥檌 awyren.

Drwy gyfweliadau gyda aelodau teulu鈥檙 peilot mentrus hwn, ynghyd 芒鈥檌 eiriau ef ei hun, cawn gipolwg ar fywyd un o arloeswyr hedfan 100 mlynedd yn 么l.

Lleoliad: Fferm Frongelyn, Cribyn, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7NJ
Llun: Simon Jones mewn awyren o鈥檙 Rhyfel Byd Cyntaf; Simon Jones yn ei awyren; y teulu wedi casglu tu allan i Frongelyn, trwy garedigrwydd Mair Gaunt.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

5 o funudau