Main content

Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd: S锚r rygbi Cymru a laddwyd yn y Rhyfel

Lladdwyd 13 o chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Alun Thomas sy'n adrodd am y 13 o ddynion oedd wedi cynrychioli Cymru yn rhyngwladol ar y cael rygbi, ac a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd rygbi Cymru yn mwynhau oes aur pan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y t卯m cenedlaethol wedi ennill y Gamp Lawn gyntaf a buddugoliaethau hanesyddol dros Seland Newydd oedd yn golygu na wnaeth neb eu curo rhwng mis Mawrth 1907 a mis Ionawr 1910.

Bu farw dros 40,000 o Gymry yn y Rhyfel Mawr. Roedd 13 ohonyn nhw hefyd wedi cael yr un profiad balch o wisgo'r crys coch fel aelodau o d卯m rygbi rhyngwladol Cymru, sef: Richard Thomas, John Lewis Williams, David Westacott, Horace Wyndham Thomas, Richard Davies Garnons Williams, Charles Gerald Taylor, Louis 鈥淟ou鈥 Augustus Phillips, Charles Meyrick Pritchard, Philip Dudley Waller, Brinley Richard Lewis, William 鈥淏illy鈥 Purdon Geen, Fred Leonard Perrett a David Watts.

Lleoliad: Stadiwm y Mileniwm, Stryd Westgate, Caerdydd, CF10 1NS
Llun drwy garedigrwydd Undeb Rygbi Cymru a Liz Jones

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau