Main content

Neuadd y Farchnad, Aberd芒r: Keir Hardie yn cynnal cyfarfod heddwch

Neuadd y Farchnad, Aberd芒r: Keir Hardie yn cynnal cyfarfod heddwch

Cynhaliwyd cyfarfod heddwch stormus yn Neuadd y Farchnad, Aberd芒r, ar Awst 6ed 1914. Roedd Keir Hardie, yr aelod seneddol Llafur lleol, wedi trefnu鈥檙 cyfarfod ers peth amser ac fe benderfynwyd na ddylid ei ohurio er bod rhyfel wedi ei gyhoeddi ddeuddydd ynghynt.

Roedd Hardie鈥檔 sosialydd, yn heddychwr ac yn Gristion ac yn credu na ddylai gweithwyr fod yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Ond wedi i鈥檙 rhyfel ddechrau fe newidiodd agwedd pobl Aberd芒r, gan droi yn jingoistaidd a Phrydeinig. Yn sydyn ychydig iawn o gefnogaeth oedd i heddychiaeth draddodiadol y dref.

Roedd Neuadd y Farchnad dan ei sang yn ystod y cyfarfod ar Awst 6ed, gyda nifer o bobl yn gwaeddi ac yn canu er mwyn tarfu ar y digwyddiad ac er mwyn rhwystro Hardie rhag siarad. Tua diwedd y noson fe daniwyd dryll, ac fe ddilynwyd Hardie yn ol i鈥檞 lety gan rai o鈥檙 dorf.

Fe dorrwyd ysbryd Keir Hardie gan y Rhyfel Byd Cyntaf a chan agwedd pobl Aberd芒r tuag ato, a bu farw yn 1915 wedi cyfnod hir o salwch.

Hywel Davies, ficer Aberd芒r, sy'n son am y cyfarfod.

Lleoliad: Neuadd y Farchand, Aberdar, CF44 7DY

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau